Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal
DYDD MERCHER 11 RHAGFYR 2013
12.30-1.30
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol:
David Melding AC – Cadeirydd
Yn bresennol:
Rhian Williams, Cynorthwy-ydd Personol/Ysgrifennydd Gweinyddol, Voices From Care – y Cofnodion
Drwy wahoddiad
Delma Hughes, Sylfaenydd Gyfarwyddwr, Siblings Together
Cafwyd ymddiheuriadau gan:
Bethan Jenkins AC
Mark Isherwood AC
Simon Thomas AC
Joyce Watson AC
Dr Heather Ottaway, Darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
Deborah Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Voices From Care
CROESO A CHYFLWYNIAD GAN Y CADEIRYDD
Dechreuodd David Melding y cyfarfod a chroesawodd Delma Hughes yn gynnes, a rhoddodd amlinelliad byr o ddiben y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal. Ychwanegodd y byddai unrhyw wybodaeth a chanlyniadau sy’n deillio o’r cyfarfod yn cael eu dosbarthu i Aelodau’r Cynulliad a oedd yn methu â bod yn bresennol.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2013 fel cofnod cywir.
MATERION YN CODI
Nododd David Melding, yn dilyn y cyfarfod diwethaf o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Derbyn Gofal, pan gytunwyd y byddai DM yn drafftio cynnig ar gyfer cynnal dadl y meinciau cefn ar blant sydd ar goll, bu’r grŵp yn llwyddiannus yn ei gais i gael ei ddewis gan y Pwyllgor Busnes, ar gyfer cynnal dadl ar 4 Rhagfyr.
ETHOL CADEIRYDD AC YSGRIFENNYDD
Cynigiodd David Melding y dylai’r dasg o ethol cadeirydd ac ysgrifennydd gael ei gohirio tan y cyfarfod nesaf o’r Grŵp Trawsbleidiol.
CYFLWYNIAD AR FRODYR A CHWIORYDD MEWN GOFAL
Dywedodd David Melding AC bod materion sy’n gysylltiedig â brodyr a chwiorydd mewn gofal yn bwysig, ac nad oeddent yn cael eu trafod yn aml.
Cyflwynodd Delma Hughes ei hun, a rhoddodd amlinelliad byr o Siblings Together, sef prosiect sy’n hyrwyddo cysylltiad cadarnhaol rhwng brodyr a chwiorydd a gaiff eu gwahanu yn sgîl gofal a mabwysiadu. Dywedodd Delma fod gwahanu brodyr a chwiorydd yn fater sy’n cael ei esgeuluso’n aml ym maes gwaith cymdeithasol, ond yn fater sy’n cael ei gydnabod gan grwpiau Hawliau Plant a gweithwyr cymdeithasol. Dywedodd nad yw hawliau o ran cysylltiad yn cael eu rhoi ar waith, ac ni all plentyn orfodi ei hawliau cyfreithiol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, i weld ei deulu a’i frodyr a chwiorydd, a chael yr hawl i gael ei gredu.
Er mwyn cefnogi brodyr a chwiorydd sydd wedi cael eu gwahanu, bydd Siblings Together yn cynnal gwersylloedd preswyl drwy’r haf a’r hydref ar gyfer brodyr a chwiorydd o’r Deyrnas Unedig drwyddi draw, a hefyd byddant yn cynnal diwrnodau o weithgareddau ddwywaith y mis yng ngogledd Llundain. Mae gan Siblings Together hefyd raglen o’r enw ‘Cysylltiadau Creadigol’ (Creative Connections) ar gyfer brodyr a chwiorydd a rhai sydd dros 16 mlwydd oed sy’n gadael gofal, a bydd yn cynnal digwyddiadau creadigol, fel rhaglenni drama am gyfnodau o wythnos, a chyrsiau preswyl ar ysgrifennu creadigol a barddoniaeth. Rhoddodd Delma wybod fod Siblings Together yn falch o gyhoeddi bod ganddynt brosiect newydd ar y gweill, lle y bydd gwirfoddolwyr cymwys yn mynd gyda brodyr a chwiorydd am ddiwrnodau allan, i dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd mewn amgylchedd braf.
Dywedodd Delma Hughes fod oddeutu 70,000 o blant yn derbyn gofal ym Mhrydain ac roedd hi’n teimlo y byddai’r ffigur hwn yn parhau i godi. Mae hyd at 84% o frodyr a chwiorydd yn cael eu gwahanu yn y pen draw, a rhai plant nad ydynt yn dymuno dychwelyd adref at eu teuluoedd, ac oherwydd y lleoliadau niferus sydd, a throsiant mawr o weithwyr cymdeithasol, gallai brodyr a chwiorydd fod mewn cysylltiad â’i gilydd mor anaml ag unwaith y flwyddyn.
Teimlai Delma Hughes yn gryf nad oedd asesiadau digonol yn cael eu cynnal o blant yn y dechrau, pan fyddant yn dod i’r system gofal am y tro cyntaf, a phwysleisiodd bod asesiadau yn cael eu cynnal yn llawer rhy fuan ym Mhrydain, a chyfeiriodd at yr arfer da yn yr Unol Daleithiau, lle y bydd asesiadau yn cael eu cynnal dros gyfnod o 18-24 mis. Mewn nifer o daleithiau yn America, mae’n ofynnol, o dan y gyfraith, i frodyr a chwiorydd aros gyda’i gilydd, gyda gofalwyr yn cael eu lleoli ar gyfer lletya teuluoedd o ddau, tri, pedwar neu fwy o blant, ac ychwanegodd, os bydd yn amhosibl cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd, y dylent fynd i’r un ysgol ac aros yn yr un ardal â’i gilydd, i sicrhau bod digon o gysylltiad rheolaidd rhyngddynt i gadw’r cyswllt teuluol. Parhaodd Delma drwy ddweud bod llawer iawn o waith ymchwil wedi’i wneud ar frodyr a chwiorydd mewn gofal, er enghraifft, gan yr Athro Robert Saunders, Prifysgol Abertawe, sydd wedi ysgrifennu llyfr ar blant sy’n gadael gofal, a Dr Heather Ottaway, sy’n Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Delma ei bod yn teimlo bod gwahanu brodyr a chwiorydd yn fath o gosb arnynt, a all gael effaith hirdymor ar eu cyswllt â’i gilydd, a theimlai ei bod yn gwbl naturiol i frodyr a chwiorydd ddadlau a thynnu ar ei gilydd ac ati, a dod yn ffrindiau eto yn fuan.
CAM I’W GYMRYD: DELMA HUGHES I ANFON DATA SY’N CADARNHAU’R CYFREITHIAU YN AMERICA AT DAVID MELDING
Rhoddodd Delma Hughes wybod bod Siblings Together yn cynnal tri phrosiect ar hyn o bryd; nid oedd y prosiect yng Nghaerdydd yn cael dim arian o gwbl ar hyn o bryd, a holodd a oedd modd i David Melding nodi unrhyw noddwyr da a allai gynorthwyo gyda’r prosiect. Aeth Delma ymlaen drwy ddweud yr hoffai hi gael rhagor o gysylltiad â Chymru a’i bod yn teimlo y gallai’r awdurdodau lleol fod yn cynnal gweithgareddau fel gwersylloedd haf ar gyfer brodyr a chwiorydd, sy’n cynnig cyfnod gyda’i gilydd i feithrin eu perthynas deuluol; mae Conwy yn un awdurdod sy’n gwneud hyn, a hoffai Delma Hughes weld rhagor o blant o Gymru yn cael cyfle i fynd i wersylloedd fel hyn.
CAM I’W GYMRYD: DAVID MELDING I YSGRIFENNU AT Y GWEINIDOG YN GOFYN I ‘LEOLIADAU AR Y CYD’ GAEL EU DARPARU, ER MWYN I FRODYR A CHWIORYDD ALLU AROS GYDA’I GILYDD, A DOSBARTHU COPI O’R YMATEB I AELODAU’R GRŴP
CAM I’W GYMRYD: DELMA HUGHES I WAHODD DAVID MELDING YN FFURFIOL I’R GWERSYLL HAF YN SIR BENFRO YN 2014
Holodd David Melding a oedd unrhyw arferion da yn amlwg yn Lloegr y gallai Cymru eu defnyddio. Nododd Delma Hughes bod y Bil Gofal Cymdeithasol yn un enghraifft. Dywedodd David Melding ei fod yn gobeithio y byddai gwelliant i’r Bil Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, a fyddai’n codi oedran gadael gofal i 21 mlwydd oed. Cafwyd trafodaeth fer ynghylch y ffaith bod yr Alban ar flaen y gad i Gymru a Lloegr o ran arferion da yn y maes hwn.
CAM I’W GYMRYD: DELMA HUGHES I ROI GWYBOD I DAVID MELDING PAN FYDD Y DDEDDFWRIAETH YN LLOEGR YN NEWID
Diolchodd David Melding i Delma Hughes am ei hanerchiad cynhwysfawr.
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF
Anfonir gair maes o law ynglŷn â dyddiad y cyfarfod nesaf.
CAM I’W GYMRYD: RHIAN WILLIAMS I GYSYLLTU Â SARAH SHARPE
Oherwydd nad oedd rhagor o fusnes i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben am 1.15 p.m.